Cwestiynau Cyffredin
Isod fe welwch ein Cwestiynau Cyffredin
Sut bobl yw’r staff?
Cyfeillgar, gofalgar a phroffesiynol.
Pwy arall fydd yn byw gyda mi?
Pobl gyda galluoedd tebyg i chi.
A yw’r bwyd yn dda?
Ddim cystal â bwyd mam, ond ddim yn ddrwg.
Beth am gludiant?
Mae gan bob ty ar y prif safle ei gerbyd cludo pobl ei hun ar gyfer Defnyddwyr y Gwasanaeth ac i rieni ei ddefnyddio pan fyddant yn ymweld os oes angen.
A fydd gennyf Weithiwr Allweddol?
Bydd. Yn fuan wedi cyrraedd fe benodir un ar eich cyfer. Wedi i chi setlo i mewn, gallwch newid os ydych eisiau.
Ydw i’n cael mynd adref at fy rheini?
Pryd bynnag fyddwch eisiau.
Yw rhieni a ffrindiau’n cael ymweld?
Pryd bynnag fyddwch eisiau iddynt wneud.
A yw’r cartrefi yn rhyw gymysg?
Mae gennym y ddau opsiwn, ond byddwn yn grwpio yn ôl cydweddoldeb nid rhyw.
Mae gen i lawer mwy o gwestiynau?
Cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau i’w hateb.