Defnyddwyr Gwasanaeth
Mae pob un o’n defnyddwyr gwasanaeth yn oedolion ifanc yn yr ystod oedran 18-45 ac â Chyflyrau Sbectrwm Awtistiaeth. Maent oll yn unigolion gyda galluoedd sy’n ymestyn ar draws y sbectrwm ac felly angen cefnogaeth wedi ei deilwra i gyflawni eu nodau personol.
Daw Defnyddwyr Gwasanaeth o bob rhan o’r Deyrnas Unedig yn cynnwys:
- Birmingham
- Swydd Gaer
- Nottingham
- Swydd Buckingham
- Essex
- Richmond
- Ceredigion
- Lewisham
- Swydd Amwythig
Mae ein henw da hefyd wedi lledaenu ymhellach ac mae ein defnyddiwr gwasanaeth diweddaraf wedi dod yr holl ffordd o Gibraltar.