Diffiniadau Awtistiaeth

Defnyddir y term Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth am fod yna amrywiaeth mawr yn y cyflwr o un unigolyn i’r llall yn ddibynnol ar ddifrifoldeb a chyfuniad pob maes o’r amhariad.

Awtistiaeth Glasurol

Mewn Awtistiaeth Glasurol, mae’r amhariadau yn y meysydd cymdeithasol a chyfathrebu yn ddifrifol a pharhaus. Mae’r unigolyn yn aml yn bryderus, yn methu cadw sylw a gyda diffyg cymhelliant, yn ymateb yn anarferol i nifer o wahanol ysgogiadau ac yn cael ei ystyried i fod yn ‘wahanol’ i eraill. Mae lleferydd yn gyfyngedig, neu bron yn gwbl absennol, ac mae’n debygol y bydd elfen o nam deallusol.

Mae yna ddibyniaeth gref ar drefn ac efallai y bydd gan yr unigolyn nifer o ymddygiadau defodol. Weithiau cyfeirir at Awtistiaeth Glasurol fel Awtistiaeth Kanner hefyd.

Mae pobl gydag Awtistiaeth Glasurol yn arddangos nifer o anawsterau, yn cynnwys:

Yr hyn sy’n gwahaniaethu rhwng Syndrom Asperger ac Awtistiaeth Glasurol yw difrifoldeb y symptomau ac absenoldeb oedi ieithyddol. Efallai mai dim ond wedi eu heffeithio ychydig fydd pobl gyda Syndrom Asperger ac yn aml bydd ganddynt sgiliau iaith a gwybyddol da. I rywun heb hyfforddiant, gall rhywun gyda Syndrom Asperger edrych fel person arferol yn ymddwyn yn wahanol.

Yn aml fe ystyrir pobl gydag awtistiaeth i fod ar wahân a heb ddiddordeb mewn eraill. Nid yw hyn yn wir gyda Syndrom Asperger. Fel arfer mae unigolion gyda Syndrom Asperger eisiau cyd-fynd a rhyngweithio gydag eraill; ond ni fyddant yn gwybod sut i wneud hyn. Efallai y byddant yn gymdeithasol lletchwith, heb ddealltwriaeth o reolau cymdeithasol confensiynol, neu’n dangos diffyg empathi. Efallai na fyddant yn cadw cyswllt llygaid, neu heb ymroi i sgwrs, ac nad ydynt yn deall defnydd o ystumiau.

Gall diddordeb mewn pwnc penodol ymylu ar obsesiwn. Yn aml bydd pobl gydag Asperger yn hoffi casglu categorïau o bethau megis cylchgronau comig, darnau o geir neu ddyfeisiau electronig. Er ei bod yn bosibl bod ganddynt sgiliau cofio peiriannol da, yn ddieithriad bydd ganddynt anhawster gyda chysyniadau haniaethol.

Un gwahaniaeth mawr rhwng Syndrom Asperger ac Awtistiaeth Glasurol yw, trwy ddiffiniad, nad oes oedi mewn lleferydd gydag Asperger. Yn wir, yn aml iawn mae gan bobl gyda Syndrom Asperger sgiliau iaith da; dim ond eu bod yn defnyddio iaith mewn ffyrdd gwahanol. Efallai y bydd patrymau lleferydd yn anarferol, heb ffurfdro neu natur rythmig, neu efallai y bydd yn ffurfiol, ond yn rhy uchel neu fain. Efallai na fydd pobl gyda Syndrom Asperger yn deall cynildeb iaith, megis eironi a hiwmor, neu efallai na fyddant yn deall natur nôl a mlaen sgwrs.

Gwahaniaeth arall rhwng Syndrom Asperger ac Awtistiaeth Glasurol yw o ran gallu wybyddol. Tra bod y rhan fwyaf o unigolion gydag Awtistiaeth Glasurol yn profi nam deallusol, trwy ddiffiniad ni all unigolyn gyda Syndrom Asperger feddu ar oediad gwybyddol “clinigol arwyddocaol” ac mae’n rhaid bod ganddynt ddeallusrwydd cyfartalog i uwch na’r cyfartaledd.

Testimonials

"I am writing to you after visiting my brother today. We spent about approximately 5 hours together and for the first time in many years he showed an increased degree of initiative. He didn't need my presence or help in all of the social situations we encountered. He was polite and well behaved, his abruptness and awkwardness were still evident but he was accepted because of his politeness. I feel this could only have occurred because of the help, support and correct treatment he has received at Bangeston Hall.I know these are small steps but they are the first I have seen in 15 years or so. He feels at ease, comfortable and valued with you and this is slowly working through."

Read more testimonials

Keeping in touch

At Bangeston Hall we set up a facebook page so you can keep in touch with your family.

Find out more