Hamdden ac Adloniant
Trefnir gweithgareddau hamdden tu allan i’r oriau gwaith craidd o Ddydd Llun i Ddydd Gwener 09:00 –
16:00.
Cyn belled â phosibl rydym yn annog defnyddwyr ein gwasanaeth i ddefnyddio’r cyfleusterau lleol ac maent yn mynd yn rheolaidd i farchogaeth, seiclo, nofio, sesiynau sba (jacwsi a stem), bowlio deg, i’r sinema ac, wrth gwrs, mae’r dafarn leol yn sicr yn boblogaidd iawn.
Mae cerdded hefyd yn weithgaredd poblogaidd yn Bangeston ac mae Sir Benfro yn sir aruthrol i gerdded, gyda milltiroedd o draethau euraidd ac adnoddau naturiol eraill.
Dyma rai pwyntiau cyfeirio os hoffech ymchwilio beth sydd gan Sir Benfro i’w gynnig:
www.visitpembrokeshire.com
www.pcnpa.org.uk
www.preseliventure.co.uk
Mae arforgampau yn gamp antur unigryw ble byddwch yn profi cyffro tramwyo ar lefel y môr, dringo creigiau, neidio clogwyni a nofio o ogofau’r môr.
Oriel Luniau
Cliciwch ar un o’r mân-luniau i weld delwedd fwy.