Tystebau
Isod ceir detholiad o’r nifer o sylwadau caredig yr ydym yn derbyn gan rieni, gweithwyr proffesiynol a defnyddwyr gwasanaeth.
- “Rydw i’n cael lot o gefnogaeth gan staff ac maent yn rhoi gwybod i mi sut mae fy mab.”
Rhiant
- “Ar y cyfan roeddwn yn teimlo eich bod wedi cyflawni cydbwysedd o ddarparu sefydliad proffesiynol iawn gydag amgylchedd gynnes, garedig a dymunol.”
Gweithiwr Cymdeithasol
- “Da iawn bawb a gyfrannodd i’r stori hon o lwyddiant.”
Gweithiwr Cymdeithasol
- “Hoffai’r tîm adolygu gydnabod yr ymdrechion sylweddol a wnaed gan y sefydliad i ddefnyddio ymagwedd sy’n ystyrlon ac yn berthnasol i’r unigolyn gydag ASD.”
Achrediad Awtistiaeth
- ”Ychydig eiriau byr i fynegi fy niolch i chi’n bersonol a’ch staff am y gefnogaeth amhrisiadwy a ddarparwyd gennych wrth gyflawni’r asesiad a’r cynllun ymyrraeth …..heb eich cymorth ni fyddai wedi bod yn bosibl i ni ddatrys y sefyllfa.”
Gweithiwr Cymdeithasol, Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol
- “Roeddwn yn falch iawn i weld y lle yn ‘fyw’ gyda gweithgaredd positif.”
Cyn Arolygydd ASGC
- “Helaeth iawn gyda digon o le i gerdded o gwmpas a chael llonydd gan bawb os ydych eisiau.”
Defnyddiwr gwasanaeth
- “Rwy’n ysgrifennu wedi ymweld â’m brawd heddiw.Fe dreuliom tua 5 awr gyda’n gilydd ac am y tro cyntaf mewn nifer o flynyddoedd fe ddangosodd lefel uwch o fenter. Nid oedd angen fy mhresenoldeb i’w helpu yn yr holl sefyllfaoedd cymdeithasol y daethom ar eu traws. Roedd yn gwrtais ac yn ymddwyn yn dda, roedd ei sydynrwydd a lletchwithdod yn dal yn amlwg ond fe’i derbyniwyd oherwydd ei gwrteisi. Rwy’n teimlo bod hyn wedi digwydd o ganlyniad i’r cymorth, cefnogaeth a thriniaeth briodol mae wedi derbyn yn Bangeston Hall. Rwy’n gwybod mai camau bach yw’r rhain, ond dyma’r cyntaf i mi weld mewn tua 15 mlynedd. Mae’n teimlo’n gyfforddus, bodlon ac wedi ei werthfawrogi gyda chi ac mae hyn yn araf bach weithio’i ffordd trwodd.”
Brawd Defnyddiwr Gwasanaeth–